#

Y Pwyllgor Deisebau | 1 Hydref 2019
 Petitions Committee | 1 October 2019
 
 
 ,P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru 

 

 

 


Papur briffio gan Ymchwil y Senedd:

Rhif y ddeiseb: P-05-901

Teitl y ddeiseb: Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Mae ffermio anifeiliaid am eu ffwr wedi cael eu gwahardd yn y DU ers dros 16 mlynedd oherwydd y creulondeb sy’n rhan ohono. Fodd bynnag, mae cynhyrchion ffwr yn cael eu mewnforio yn gyfreithlon o wledydd lle nad oes fawr ddim o ran cyfreithiau lles anifeiliaid.

Mae llawer o’r anifeiliaid yn cael eu dal yn y gwyllt mewn trapiau coes â safnau dur, ac mae achosion lle mae’r anifeiliaid hyn wedi cnoi trwy eu coesau mewn ymgais gorffwyll i ddianc. Hefyd, mae anifeiliaid yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr, fel arfer mewn amgylchiadau cyfyng iawn sy’n arwain at drawma meddyliol difrifol, briwiau a chlefydau.

Poen a dioddefaint dirfawr yw tynged yr anifeiliaid hyn, ni waeth a ydynt yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr neu eu dal yn y gwyllt. Mae’r diwydiant ffwr yn gwbl anfoesol, yn gwbl ddiangen ac yn greulon.

Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru wahardd gwerthu a mewnforio ffwr anifeiliaid.

 

Y cefndir

Nid oes dim ystadegau swyddogol sy’n dangos nifer yr anifeiliaid a gaiff eu lladd ar gyfer y fasnach ffwr. Mae’r Humane Society International (HSI) (a roddodd dystiolaeth lafar ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn 2018 i’r Fasnach Ffwr yn y DU) yn darparu ystadegau ar ei wefan. Mae’n amcangyfrif bod tua chan miliwn o anifeiliaid yn cael eu bridio a’u lladd ar ffermydd ffwr dwys ledled y byd bob blwyddyn, a hynny’n benodol i gyflenwi’r diwydiant ffasiwn:

§    Tseina (ystadegau 2014): 60 miliwn o mincod, 13 miliwn o lwynogod, ac 14 miliwn o gŵn raccoon wedi cael eu bridio a’u lladd ar ffermydd ffwr;

§    Yr Undeb Ewropeaidd (dim dyddiad ar gael): 42.6 miliwn o mincod, 2.7 miliwn o lwynogod, 155,000 o gŵn raccoon, a lladdwyd 206,000 tsintsila am eu ffwr yn yr UE;

§    Mae niferoedd mawr, ond anhysbys, o gwningod hefyd yn cael eu lladd am eu ffwr (mae’r swm yn gannoedd o filiynau yn ôl pob tebyg) yn Ewrop a China; ac

§    Yn 2015, cafodd mwy na 4 miliwn o anifeiliaid eu lladd am eu ffwr yng Ngogledd America.

Dywed yr Humane Society International, yn ogystal â ffermio ffwr, bod nifer fawr o anifeiliaid yn cael eu dal â thrap a’u lladd am eu ffwr yn y gwyllt. Daw’r mwyafrif o ffwr o anifeiliaid sydd wedi’u dal yn wyllt o’r UDA, Canada a Rwsia. Mae nifer o wledydd wedi gwahardd ffermio ffwr.

 

Rheoliadau a chanllawiau

Yn yr UE, mae’n gyfreithiol mewnforio a gwerthu ffwr o amrywiaeth o rywogaethau fel llwynogod, cwningod, mincod, bleiddiaid y paith, cŵn raccoon a tsintsila. Mae rheoliadau’r UE yn gwahardd masnachu ffwr mewn cysylltiad â chathod domestig, cŵn ac hefyd helfeydd morloi masnachol.

 

Rheoliadau’r UE

Mae nifer o Reoliadau’r UE sy’n ymwneud â mewnforio ffwr, â lles anifeiliaid sy’n cael eu bridio am eu ffwr, ac â lladd anifeiliaid.

Mae Rheoliad Cyngor yr UE (EEC) Rhif 3254/91 yn gwahardd mewnforio ffwr a chynhyrchion ffwr rhai rhywogaethau anifeiliaid gwyllt sy’n tarddu o wledydd lle cânt eu dal gan drapiau dal coesau neu ddulliau trapio nad ydynt yn cyrraedd y safonau rhyngwladol o ran dal yn drugarog. Mae’r rheolaeth yn cynnwys 13 rhywogaeth o anifeiliaid â chanddynt ffwr ac sy’n berthnasol i’w ffwr amrwd a chynhyrchion a wneir ohono. Nid yw’n berthnasol i anifeiliaid sy’n cael eu geni a’u magu mewn caethiwed. Ymhlith y rhywogaethau mae: mochyn daear, yr afanc, y lyncs, y raccoon, y dyfrgi a’r blaidd.

Mae Cyfarwyddeb 98/58/EC ar waith yn yr UE i sicrhau bod anifeiliaid sy’n cael eu bridio am eu ffwr yn cael eu trin yn drugarog. Mae’r rheolau yn cynnwys goruchwylio o ran ble y cânt eu cadw, eu rhyddid i symud, eu gofynion bwydo a dyfrio, a chymwysterau staff. Mae argymhellion arbennig yn ymdrin â gofynion minc, ffured, llwynog a tsintsila, ac anifeiliaid eraill.

Mae Cyfarwyddeb 93/119/EC yn ceisio lleihau poen a dioddefaint anifeiliaid wrth eu lladd drwy ddefnyddio dulliau syfrdanu a lladd sy’n gymeradwy.

 

Canllawiau Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar fewnforio ffwr a chrwyn anifeiliaid i’r DU.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth y DU, mae nifer o nwyddau ffwr anifeiliaid sydd wedi’u heithrio rhag rheolaethau mewnforio y DU. Mae’r rhain yn cynnwys:

§    nwyddau gorffenedig at ddefnydd personol a phreifat yn unig;

§    nwyddau gorffenedig sy’n dod o dan weithdrefn ar gyfer mynediad dros dro ac nid i’w gwerthu yn yr UE ond y bwriedir eu hail-allforio; a

§    phelenni a nwyddau a weithgynhyrchir yn yr UE ac sy’n cael eu hailgyflwyno i’r UE yn dilyn gweithdrefn brosesu - rhaid darparu prawf eu bod wedi’u prosesu o belenni neu nwyddau a allforiwyd o’r UE yn flaenorol.

 

Mae’r canllaw yn cynnwys rhestr o fewnforion ffwr anifeiliaid a ganiateir fesul gwlad.

Mae sawl adran o lywodraeth y DU â chyfrifoldeb dros sicrhau bod ffwr anifeiliaid a chrwyn anifeiliaid yn cael eu mewnforio’n gyfreithlon. Nod Asiantaeth Ffiniau’r DU (UKBA) yw sicrhau bod yr holl fewnforion ffwr a chynhyrchion ffwr a chroen yn cael eu mewnforio yn gyfreithlon, ac mae gan Adran yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Materion Gwledig (Defra) gyfrifoldeb polisi am reolaethau ar ffwr a chynhyrchion ffwr a chroen ac am weithredu polisi.

 

Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau sydd mewn Perygl (CITES)

Mae’r Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt sydd mewn Perygl yn gytundeb rhyngwladol rhwng llywodraethau. Ei nod yw sicrhau nad yw masnach ryngwladol mewn rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt yn bygwth eu goroesiad. Mae’r Confensiwn yn gytundeb rhyngwladol y mae Gwladwriaethau a sefydliadau integreiddio economaidd rhanbarthol yn ymlynu wrtho yn wirfoddol. Gelwir gwladwriaethau sydd wedi cytuno i ymrwymo i’r Confensiwn yn Bartïon. Er bod y Confensiwn yn rhwymo’r Partïon yn gyfreithiol - hynny yw mae’n rhaid iddynt weithredu yn ôl y Confensiwn - nid yw’n cymryd lle deddfau cenedlaethol. Yn hytrach mae’n darparu fframwaith sydd i’w barchu gan bob Parti, y mae’n ofynnol iddynt fabwysiadu eu deddfwriaeth ddomestig ei hunain i sicrhau bod y Confensiwn yn cael ei weithredu ar y lefel genedlaethol. Bu’r DU yn Barti i’r Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt sydd mewn Perygl er 1976.

 

 

Tŷ’r Cyffredin

Ar 4 Mehefin 2019 bu trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ar wahardd masnach ffwr yn y DU. Roedd y drafodaeth yn seiliedig ar ddeiseb a oedd wedi casglu mwy na 109,000 o lofnodion. Er bod ffermio ffwr wedi’i wahardd ledled y DU erbyn 2002, gall ffwr gael ei fewnforio yn gyfreithiol o hyd o dan Reoliadau cyfredol yr UE. Roedd yr Aelodau Seneddol yn cefnogi’n eang y cynnig i wahardd yn y DU, a gofynnwyd i Lywodraeth y DU ddefnyddio ymadawiad y DU â’r UE fel cyfle i gyflwyno Rheoliadau llymach ar fewnforion ffwr. Ymatebodd George Eustice, y Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ar y pryd, drwy ddweud bod cyfran marchnad y DU yn rhy fach i gyfiawnhau gwaharddiad ar y fasnach fel ffordd effeithlon o wella lles anifeiliaid.

Yn 2018, cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ’r Cyffredin (EFRA) ymchwiliad i Fasnach Ffwr yn y DU. Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar:

§    Faint y fasnach ffwr yn y DU;

§    Effeithiolrwydd y gyfraith gyfredol o ran ffwr anifeiliaid;

§    A yw’r ddeddfwriaeth yn cael ei gorfodi’n ddigonol ai peidio;

§    Pa welliannau y gellid eu gwneud i labelu cynhyrchion ffwr a chynhyrchion ffwr ffug ar hyn o bryd;

§    Pa welliannau y dylid eu gwneud i reoleiddio’r diwydiant ffwr; a

§    Y cyfleoedd y mae Brexit yn eu darparu ar gyfer newid deddfwriaeth gyfredol.

Roedd argymhellion a chasgliadau allweddol y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ar gam-werthu a gwerthu ffwr go iawn yn ddamweiniol fel ffwr ffug, a bod angen i fanwerthwyr gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau eu bod yn gwerthu eitemau fel y disgrifir. Dywedodd hefyd nad oes eglurder yng nghyfundrefn labelu gyfredol yr UE ar gyfer ffwr, ac nad yw’n nodi’n benodol pryd mae cynnyrch yn cynnwys ffwr anifeiliaid go iawn. Roedd yn argymell y dylai Llywodraeth y DU gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ystyried a ddylid gwahardd gwerthu a mewnforio ffwr ar ôl ymadael â’r UE. Awgrymodd y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth gydbwyso anghenion o ran lles anifeiliaid â dewis y defnyddiwr. O ran cynnal ymgynghoriad, dywedodd Llywodraeth y DU:

The Government shares the British public’s high regard for animal welfare and, after we leave the EU, the Government plans to retain our current regulations banning the import of fur from domestic cats, dogs or commercial seal hunts.

Fur farming was banned in the UK in 2000. Fur farming is legal in other EU countries, and whilst rules are in place to ensure that animals kept for fur production in the EU are kept, trapped and killed humanely the Government has supported higher animal welfare standards worldwide to phase out fur farming and trapping practices in other parts of the world that are banned here. After EU exit once the UK assumes an independent seat on international bodies such as CITES and OIE we will have an opportunity to promote further our high standards in these international fora.

While the UK is a member of the EU it is not possible to introduce restrictions relating to the fur trade which are inconsistent with the Treaty on the Functioning of the EU and which impair the free movement of goods within the EU single market.  There will be an opportunity for government in the future, once we have left the EU and the nature of our future trading relationship has been established, to consider further steps such as a ban on fur imports or a ban on sales. In the interim the government considers that the transparency of information provided to consumers is key.

 

FURMARK

Mae’r Pwyllgor wedi cael llythyr gan Gymdeithas Masnach Ffwr Prydain, sy’n nodi rôl y fasnach ffwr yn codi safonau lles anifeiliaid yn y DU ac yn rhyngwladol, ac sy’n tynnu sylw y byddai gweithredu gwaharddiad yn niweidio safonau lles anifeiliaid. Mae’n nodi bod “y diwydiant ffwr wedi ymrwymo i’r safonau uchaf posibl o ran lles anifeiliaid, diogelu’r amgylchedd a chynaliadwyedd”. Dywed y bydd y diwydiant yn lansio ac yn cyflwyno FURMARK cyn bo hir, sef, marc rhyngwladol sydd â’r nod o warantu safonau yn y meysydd hyn ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys yn y man gwerthu:

The FURMARK certification programmes are based on independent scientific and veterinary advice and best practice: importantly, the verification of each scheme will be conducted by independent third parties […] With the introduction of FURMARK the five major global auction houses are committed to selling certified farm-raised and wild fur from 2020. Ultimately FURMARK enables retailers, brands and consumers to have complete assurance and confidence when buying natural fur.

Y camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, dywed Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fod gwahardd gwerthu a mewnforio ffwr anifeiliaid go iawn yng Nghymru yn fater cymhleth sy’n cwmpasu pwerau datganoledig a phwerau nad ydynt wedi’u datganoli, a’i fod yn fater sy’n ddibynnol ar gyfraith yr UE. Dywed fod unrhyw ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn dibynnu’n fawr ar berthynas y DU â’r UE yn y dyfodol.

Mae hi’n nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater:

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU sy’n nodi er na fydd rhai cynhyrchion ffwr byth yn cael eu mewnforio yn gyfreithiol i’r DU, mae gwaharddiadau cenedlaethol yn llai effeithiol na gweithio ar lefel ryngwladol ar safonau lles anifeiliaid.

Mae’r Gweinidog yn amlinellu enghreifftiau o ymdrechion rhyngwladol i sicrhau safonau uwch, a gaiff gefnogaeth rheolau a rheoliadau’r UE ynghylch mewnforio ffwr:

§    Rheoliadau, gan gynnwys gwaharddiad cyffredinol ar fewnforio ffwr o nifer o anifeiliaid, gan gynnwys cathod a chŵn, yn ogystal â’r mwyafrif o grwyn a chynhyrchion morloi;

§    Rheoliadau sy’n sicrhau bod unrhyw ffwr sy’n cael ei fewnforio i’r DU yn dod o anifeiliaid sydd wedi cael eu trin, eu trapio a’u lladd yn drugarog; a’r

§    Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawma a Fflora Gwyllt sydd mewn Perygl (CITES) sy’n rheoli ffwr rhywogaethau sydd mewn perygl.

Gorffennodd y Gweinidog drwy ddweud bod Llywodraeth y DU wedi nodi o’r blaen y bydd yn sicrhau na chaiff y rheolaethau hyn eu dileu ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

 

Y camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Chwefror 2017, gofynnodd Paul Davies AC i Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd wneud datganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch gwerthu ffwr anifeiliaid yng Nghymru. Dyma a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb:

Fur Farming was banned by the UK Government in England and Wales on ethical grounds in 2000. The Convention on International Trade in Endangered Species of Wild Fauna and Flora (CITES) regulates the import, re-export, sale or movement of endangered wild animals or their parts and aims to ensure international trade in wild animals species does not threaten their survival. 

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.